SL(6)282 – Gorchymyn Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) 2022

Cefndir a Diben

Mae'r Gorchymyn hwn yn gwneud darpariaeth ar gyfer penderfynu’r tâl ar gyfer athrawon ysgol (o fewn yr ystyr a roddir yn adran 122 o Ddeddf Addysg 2002) yng Nghymru ac amodau cyflogaeth eraill ar gyfer athrawon ysgol yng Nghymru sy'n ymwneud â'u dyletswyddau proffesiynol a'u hamser gweithio.

Mae'r Gorchymyn yn gwneud y ddarpariaeth hon drwy gyfeirio at adran 2 o ddogfen o'r enw “Dogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) 2022 a chanllawiau ar gyflog ac amodau athrawon ysgol” (“y Ddogfen”). Mae’r Ddogfen ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru: www.llyw.cymru.

Mae'r Ddogfen yn darparu ar gyfer codiad o 5 y cant o 1 Medi 2022 i'w gymhwyso i’r holl bwyntiau graddfa a lwfansau. Mae hefyd yn gwneud newidiadau amrywiol megis newid yn nifer y dyddiau a'r oriau y mae'n rhaid i athrawon fod ar gael i weithio yn sgil Gŵyl Banc ychwanegol i nodi angladd Ei Mawrhydi y Frenhines a Gŵyl Banc ychwanegol i nodi coroni Ei Fawrhydi y Brenin Charles III.

Mae'r Gorchymyn yn gwneud darpariaeth ôl-weithredol er mwyn darparu bod y darpariaethau a nodir yn adran 2 o'r Ddogfen yn cael effaith ar ac ar ôl 1 Medi 2022 er bod y Gorchymyn yn dod i rym ar ôl y dyddiad hwnnw (erthygl 2).

Mae’r Gorchymyn yn dirymu Gorchymyn Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) 2021, a gyfeiriodd at “Ddogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) 2021 a chanllawiau ar gyflog ac amodau athrawon ysgol”.

Y weithdrefn

Negyddol.

Gwnaed y Gorchymyn gan Weinidogion Cymru cyn iddo gael ei osod gerbron y Senedd.  Gall y Senedd ddirymu'r Gorchymyn o fewn 40 diwrnod (ac eithrio unrhyw ddyddiau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu, neu (ii) mewn cyfnod o doriad am fwy na phedwar diwrnod) i'r dyddiad y’i gosodwyd gerbron y Senedd.

Materion technegol: craffu

Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

Rhinweddau: craffu    

Nodir y tri phwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

1. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd

Mae'r Memorandwm Esboniadol i'r Gorchymyn hwn yn cynnwys gwallau niferus sy'n debygol o arwain at ddryswch o ran effaith y Gorchymyn hwn ac adran 2 o'r Ddogfen. Mae’r rhain yn cynnwys:

a.     Mewn un achos, mae’r fersiynau Cymraeg a Saesneg o’r Memorandwm Esboniadol yn cyfeirio at adran 2 o’r Ddogfen yn cael effaith ôl-weithredol o 1 Medi. 2021 (pwyslais wedi'i ychwanegu). Mewn gwirionedd, mae erthygl 2 o’r Gorchymyn yn darparu bod adran 2 o’r Ddogfen yn cael effaith ôl-weithredol o 1 Medi 2022 (pwyslais wedi'i ychwanegu). Cyfeirir at y dyddiad cywir mewn rhannau eraill o'r Memorandwm Esboniadol;

b.    Mae’r Memorandwm Esboniadol yn cynnwys crynodeb byr o’r newidiadau sydd wedi’u gwneud i’r Ddogfen ers ei rhagflaenydd yn 2021. Fodd bynnag, mae’r fersiynau Cymraeg a Saesneg o’r Memorandwm Esboniadol yn nodi bod yn rhaid i athrawon fod ar gael i weithio am 194 diwrnod (1258.5 awr o amser dan gyfarwyddyd) (pwyslais wedi'i ychwanegu). Mewn gwirionedd, mae'r Ddogfen yn darparu bod yn rhaid i athrawon fod ar gael i weithio am 193 diwrnod (gweler paragraff 50.2 o’r Ddogfen) (1252 awr o amser dan gyfarwyddyd – gweler paragraff 50.5, neu baragraff 50.6 mewn perthynas ag addasu ar gyfer athro a gyflogir yn rhan-amser) (pwyslais wedi'i ychwanegu);

c.     Nid yw'r Memorandwm Esboniadol yn nodi pryd y daw'r Gorchymyn i rym, gan nodi yn lle hynny “Bydd y Gorchymyn yn dod i rym ar xxxx (pwyslais wedi'i ychwanegu). Mae'r gwall hwn hefyd yn digwydd yn y fersiwn Gymraeg o’r Memorandwm Esboniadol;

d.    Yn y fersiynau Cymraeg a Saesneg o'r Memorandwm Esboniadol, nodir bod y Ddogfen yn disodli “Dogfen Cyflog ac Amodau Gwaith Athrawon Ysgol (Cymru). 2020 a chanllawiau ar gyflog ac amodau athrawon ysgol” (pwyslais wedi'i ychwanegu). Mewn gwirionedd, mae’r Ddogfen yn disodli “Dogfen Cyflog ac Amodau Gwaith Athrawon Ysgol (Cymru). 2021 a chanllawiau ar gyflog ac amodau athrawon ysgol” (pwyslais wedi'i ychwanegu).

2. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd

Nodir na osodwyd y Gorchymyn hwn gerbron y Senedd tan 15 Tachwedd 2022 ac nad yw’n dod i rym tan 7 Rhagfyr 2022, dros dri mis ar ôl y dyddiad pryd mae adran 2 o’r Ddogfen yn cael effaith ôl-weithredol (fel y darperir ar ei gyfer gan erthygl 2 o’r Gorchymyn).

Yn Memorandwm Esboniadol, mae Llywodraeth Cymru yn egluro:

“…o ganlyniad i’r amser cyfyng rhwng pob cam yn y broses gyflog eleni, a’r angen am drafodaeth bellach ynghylch cyllido’r dyfarniad cyllid, nid oedd yn bosibl gosod y Gorchymyn yn gynt.”

3. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd

Nodir bod anghydfod rhwng undebau a Llywodraeth Cymru ynghylch lefel y dyfarniad cyflog a bod rhai undebau yn y broses o gynnal pleidlais ymysg eu haelodau mewn perthynas â gweithredu diwydiannol cysylltiedig.

Er enghraifft, mae NASUWT, Undeb yr Athrawon, yn datgan ar ei wefan:

“The NASUWT has confirmed to governments and employers in England, Scotland and Wales that we are in dispute over their failure to pay all teachers a minimum 12% pay award this year.

Whilst decisions may be taken by government and employers to implement below-inflation pay awards this year, we will remain in dispute on the basis of the failure to pay a 12% award.

[…] For the avoidance of doubt, pay awards of less than 12% are not acceptable and our negotiators are not authorised to agree pay awards that do not meet the 12% demand.”

Mewn Datganiad Ysgrifenedigar 14 Tachwedd 2022, dywedodd Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg a Addysg:

“Ar 21 Gorffennaf cytunais mewn egwyddor, yn ddibynnol ar ymgynghoriad â rhanddeiliaid allweddol, i dderbyn holl argymhellion Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru ar gyfer 2022/23 yn cynnwys codiad cyflog o 5% i bob pwynt cyflog statudol ar bob graddfa gyflog ac ar gyfer pob lwfans o fis Medi 2022 ymlaen. Heddiw gallaf gadarnhau y byddwn yn derbyn argymhellion y Corff Adolygu..

[…] Rwy’n derbyn y gallai rhai pobl fod yn siomedig na ellir darparu cynnydd uwch ac yn cydnabod hawl gyfreithiol pob gweithiwr i geisio codiad cyflog teg a gweddus yn ystod y cyfnod heriol hwn o chwyddiant a chynnydd mewn costau byw.

Fodd bynnag, gan na chafwyd cyllid ychwanegol gan Lywodraeth y DU, nid ydym mewn sefyllfa i fynd i’r afael ymhellach â’r materion hyn y tu hwnt i’r hyn sydd eisoes wedi ei ystyried.”

At hynny, mae’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol sy’n gysylltiedig â’r Gorchymyn hwn yn nodi:

“Yn gyffredinol, roedd yr ymateb i'r ymgynghoriad ar y cyfan yn negyddol gan nodi siom a phryderon na fyddai'r cynnydd o 5% ar gyfer 2022/23 (a 3.5% posibl ar gyfer 2023/24) yn ddigonol.

Roedd nifer o ymgynghorwyr hefyd yn galw am ailystyried y dyfarniad cyflog yn dilyn newidiadau sylweddol i chwyddiant ers cwblhau'r adroddiad gan yr IWPRB ym mis Mai 2022 (cyfradd chwyddiant Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI), sef prif fesur chwyddiant, wedi codi i 9.9% ym mis Awst, o'i gymharu â 9.1% ym mis Mai).

Roedd y mwyafrif yn croesawu'r argymhellion eraill, fel: cynnydd diymhongar ar gyfer yr holl raddfeydd a lwfansau cyflog; a diwygiadau arfaethedig i delerau ac amodau.

Ar ôl ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad, ni ddarparwyd unrhyw dystiolaeth newydd a oedd wedi ei gwneud yn ofynnol i ailystyried cynigion y Gweinidog. Yn benodol, nid oedd yr ymatebion i'r ymgynghoriad yn rhoi digon o dystiolaeth ychwanegol angenrheidiol i gefnogi dyfarniad cyflog uwch ar draws yr holl ystodau cyflog nag oedd eisoes wedi'u hystyried a'u gwrthod ar sail fforddiadwyedd ac effaith bosibl ar gyllidebau.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae angen ymateb gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â phwynt 1 yn unig.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Legislation, Justice and Constitution Committee

22 Tachwedd 2022